MorfuddEDWARDSYn dawel yng Nghartref Bronafallen, Cerrigydrudion ar Medi 28ain 2026 bu farw yn 98 mlwydd oed.
Yn wraig annwyl i'r diweddar E Dilwyn Edwards; yn fam dyner i Hywel, Menai, a Mair, ac yn fam-yng nghyfraith groesawgar i Ann a David; yn Nain ofalgar o'i wyrion a'i wyresau: Robin, Rhys, a Dafydd; Katy, Elen, a Huw; ac Iolo a Guto; yn Hen Nain i Morfudd Siân; ac yn chwaer i'r diweddar Edith a Llion.
Bydd angladd yn cael ei chynnal yn Amlosgfa Llanelwy ddydd Mercher, Hydref 21ain am 11 y bore.
Dim blodau ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar tuag at Mudiad Meithrin a Dementia UK.
R W Roberts a'i Fab,
Gorffwysfa,
Ffordd Ystrad, Dinbych.
LL16 4RH.
01745 812935
Keep me informed of updates
Add a tribute for Morfudd